Mae Conwy yn dref yng Ngogledd Cymru sydd wedi’i hamgáu o fewn cylch o waliau o’r 13eg ganrif ac wedi’i hamddiffyn gan gastell nerthol. Mae’n un o drefi canoloesol gorau’r byd. Yn y strydoedd cul yn ei galon saif Plas Mawr, y ‘Neuadd Fawr’, a adeiladwyd rhwng 1576 a 1585 ar gyfer y masnachwr dylanwadol o Gymru, Robert Wynn.